Cyfarwyddiadau

Mae mynediad i’r Gwesty ar Ffordd Glan Môr / Promenade, neu drwy’r maes parcio ar Morfa Mawr

Car (ar gyfer y maes parcio)
Gyrrwch ar hyd Ffordd y Gogledd
Trowch i’r chwith ar y groesffordd a gyrru ar hyd Morfa Mawr
Bydd mynedfa’r maes parcio ar y dde wedi’I nodi gydag arwydd y Gwesty

Trên
Mae’r Safle Tacsi wrth yr orsaf drennau.
Os am gerdded, cerddwch ar hyd Ffordd y Môr nes i chi gyrraedd y promenade. Cerddwch i’r dde a bydd Gwesty’r Richmond ar y dde wrth y groesfan.

Sat Nav
Y Côd Post gorau i’w ddefnyddio gyda Sat Nav yw SY23 2HR.

Os hoffech gadw eich beic neu feic modur o dan do mae gennym garej a sied ar gyfer cadw beic yn y maes parcio. Goffynnwch am le wrth logi ystafell.